Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Medi 2023
Amser:
09.47 -
12.26
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13469
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Huw Irranca-Davies AS Delyth Jewell AS Jenny Rathbone AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Hannah Hickman Kelvin MacDonald Sara Morris, Pembrokeshire Coast National Park Peter Morris, Planning Officers Society Wales and Welsh Local Government Association Steve Ball, Planning Officers Society Wales and Welsh Local Government Association |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Lukas Evans Santos (Dirprwy Glerc) Mark Southgate (Cynghorwr Arbenigol) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
2 Bil Seilwaith (Cymru) - sesiwn dystiolaeth gydag academyddion
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Hannah Hickman a Kelvin MacDonald.
3 Bil Seilwaith (Cymru) - sesiwn dystiolaeth gydag awdurdodau cynllunio lleol
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Caerdydd a Cyngor Sir Powys.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Bil Seilwaith (Cymru) – Datganiad o Fwriad Polisi
4.2 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) – ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad drafft Cyfnod 1 y Pwyllgor
4.3 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - dadl ar yr egwyddorion cyffredinol
4.4 Israddio Dŵr Cymru
4.5 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ynni
4.6 Datgarboneiddio tai: datgarboneiddio'r sector tai preifat
4.7 Cymru Sero Net Cyllideb Garbon 2 - ymgynghoriad ar y Strategaeth Gwres i Gymru gan Lywodraeth Cymru
4.8 Gwefru cerbydau trydan
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Bil Seilwaith (Cymru) – Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.
7 Mesurau Llywodraethu Amgylcheddol Interim yng Nghymru - trafod adroddiad drafft y Pwyllgor
7.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd arno.